Lleoliad y cyfarfod:
Y Siambr - Y Senedd
Dyddiad y cyfarfod:
Dydd Mawrth, 28 Tachwedd 2023
Amser y cyfarfod: 13.30
------
Cynhelir y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo.
1 Cwestiynau i'r Prif Weinidog
(45 munud)
Bydd y Llywydd yn galw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Prif Weinidog ar ôl Cwestiwn 2.
2 Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
(30 munud)
Gweld y Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
3 Datganiad gan Weinidog yr Economi: Cenhadaeth Economaidd: Blaenoriaethau ar gyfer Economi Gryfach
(30 munud)
4 Datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Diweddariad ar roi diwygiadau Anghenion Dysgu Ychwanegol ar waith
(30 munud)
5 Datganiad gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol: Cynnydd Llywodraeth Leol tuag at Sero Net
(30 munud)
6 Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol: Canlyniad yr ymgynghoriad ‘Ailgydbwyso Gofal a Chymorth’
(30 munud)
7 Datganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd: Diogelwch Adeiladau
(30 munud)
Cynnig o dan Reol Sefydlog 12.24 i drafod eitemau 8, 9 a 10 gyda'i gilydd ond gyda phleidleisiau ar wahân
(30 munud)
8 Rheoliadau Gofynion Gwahanu Gwastraff (Cymru) 2023
NDM8413 Lesley Griffiths (Wrecsam)
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5, yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Gofynion Gwahanu Gwastraff (Cymru) 2023 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 7 Tachwedd 2023.
Dogfennau Ategol
Adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad
9 Rheoliadau Gwahardd Llosgi Gwastraff Penodedig, neu ei Ddodi ar Safle Tirlenwi (Cymru) 2023
NDM8414 Lesley Griffiths (Wrecsam)
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5, yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Gwahardd Llosgi Gwastraff Penodedig, neu ei Ddodi ar Safle Tirlenwi (Cymru) 2023 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 7 Tachwedd 2023.
Dogfennau Ategol
Adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad
10 Gorchymyn Gwahardd Gwaredu Gwastraff Bwyd i Garthffos (Sancsiynau Sifil) (Cymru) 2023
NDM8415 Lesley Griffiths (Wrecsam)
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5, yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Orchymyn Gwahardd Gwaredu Gwastraff Bwyd i Garthffos (Sancsiynau Sifil) (Cymru) 2023 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 7 Tachwedd 2023.
Dogfennau Ategol
Adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad
11 Rheoliadau Iechyd Planhigion etc. (Ffioedd Amrywiol) (Diwygio) (Cymru) 2023 - Gohiriwyd tan 12 Rhagfyr
(0 munud)
12 Rheoliadau Diogelu’r Amgylchedd (Cynhyrchion Plastig Untro) (Sancsiynau Sifil) (Cymru) 2023
(15 munud)
NDM8412 Lesley Griffiths (Wrecsam)
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5, yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Diogelu’r Amgylchedd (Cynhyrchion Plastig Untro) (Sancsiynau Sifil) (Cymru) 2023 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 7 Tachwedd 2023.
Dogfennau Ategol
Adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad
13 Dadl: Cyfnod 4 Bil yr Amgylchedd (Ansawdd Aer a Seinweddau) (Cymru)
(15 munud)
NDM8423 Lesley Griffiths (Wrecsam)
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 26.47:
Yn cymeradwyo Bil yr Amgylchedd (Ansawdd Aer a Seinweddau) (Cymru).
Bil yr Amgylchedd (Ansawdd Aer a Seinweddau) (Cymru), fel y'i diwygiwyd ar ôl Cyfnod 3
14 Cyfnod pleidleisio
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Senedd am 13.30, Dydd Mercher, 29 Tachwedd 2023